Y Pwyllgor Cyllid
Finance Committee
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau:
Llywodraeth Cymru
29 Ionawr 2015
Annwyl Huw
Bil Cymwysterau Cymru
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 21 Ionawr, 2015, ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Cymwysterau Cymru. Roedd gan yr Aelodau ddau ymholiad mewn perthynas â’r Bil yr hoffem gael eich barn arnynt.
Costau TGCh
Er bod Atodiad B i’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi eich bod wedi gwneud gwaith manwl o ran y costau sy’n gysylltiedig â TGCh, nid yw’r Asesiad yn rhoi gwybodaeth fanwl ynglŷn â sut y cyfrifwyd y costau hyn. O’u cymharu, mae’r costiadau ar gyfer staffio ac eiddo yn llawer mwy manwl, ac maent yn dangos y tybiaethau a ddefnyddiwyd i gyfrifo costau ychwanegol yn y meysydd hyn. O gofio bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi eich bod wedi cynnal astudiaeth gwmpasu fanwl ynghylch y costau yn y maes hwn, byddai’n ddefnyddiol cael rhagor o fanylion am y rhain.
Cyfanswm costau yr opsiwn a ffefrir a chostau ychwanegol
Dywedasoch mewn tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2014, y caiff y Bil ei ariannu "o fewn y gyllideb addysg a gytunwyd" ac nad oes "gennych fynediad at adnoddau ychwanegol"[1]. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau pa gyllideb benodol a gaiff ei defnyddio i dalu cyfanswm y costau a fydd yn deillio o weithredu’r ddeddfwriaeth a’r costau ychwanegol .
Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi ymateb i’r pwyntiau hyn erbyn 20 Chwefror at 2015. Rwyf hefyd yn anfon copi o’r llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd